Text is in middle-welsh, I don't know how far the pronunciation is away from todays.
Original can be found here: http://titus.uni-frankfurt.de/didact/idg/kelt/kymrbs.htm
Pwyll penndeuic Dyuet a oed yn arglwyd ar seith cantref Dyuet. A threigylgweith yd oed yn Arberth, priflys idaw; a dyuot yn y uryt ac yn y vedwl uynet y hela. Sef kyfeir oe gyuoeth, a vynnei y hela: Glynn Cuch. Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth ac a doeth hyt ym penn Llwyn Diarwya; ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth yn jeuenctit y dyd kyuodi a oruc a dyuot y Lynn Cuch y ellwng y gwn dan y coet; a chanu y gorn a dechreu dygyuor yr hela a cherdet yn ol y cwn ac ymgolli ae gedymdeithon. Ac ual y byd yn ymwarandaw a llef yr erchwys, ef a glywei llef erchwys arall; ac nyt oedynt vn llef; a hynny yn dyuot yn erbyn y erchwys ef.
Ac ef a welei lannerch yn y coet o uaes gwastat. Ac ual yd oed y erchwys ef yn ymgael ac ystlys y llannerch, ef a welei carw o vlaen yr erchwys arall. A pharth a pherued y llannerch, llyma yr erchwys, a oed yn y ol, yn ymordiwes ac ef ac yn y vwrw yr llawr. Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys heb hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac, or a welsei ef o helgwn y byt, ny welsei cwn un lliw ac wynt. Sef lliw, oed arnunt: claerwynn llathreit, ac eu clusteu yn gochyon, ac, ual y llathrei wynnet y cwn, y llathrei cochet y clusteu. Ac ar hynny att y kwn y doeth ef, a gyrru yr erchwys, a ladyssei y carw, ymeith a llithyaw y erchwys e hunan ar y carw.